National Lottery Community Fund 'Well-Being Matters' Launch

NEWCIS have successfully been awarded a National Lottery Community Fund grant of £500,000.

National Lottery Community Fund ‘Well-Being Matters’ Launch

Following on from the Carers Well-Being Project, which ended in April, NEWCIS have successfully been awarded a National Lottery Community Fund grant of £500,000 to continue building on its success. The new project, ‘Well-Being Matters’ will run for the next 3 years focusing on all aspects of carer well-being. There’s a really big focus on the project being inclusive, helping to reduce isolation and creating a greater sense of well-being, be that mentally, physically or socially. Our well-being officers will be on hand to offer one to one support,  and we’ll be working hard, once lock down is over, on increasing our capacity to offer counselling, breaks and social events with the help of volunteers. In the meantime, we’re available over the phone and online so please do get in touch and stay connected. Watch this space for more updates in the coming months!

Kindest regards, 

Gill (project manager) and team.

Lansio ‘Mae Llesiant yn Bwysig’ y Cronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol

Yn dilyn y Prosiect Llesiant Gofalwyr, a ddaeth i ben ym mis Ebrill, mae NEWCIS wedi llwyddo i ennill grant y Cronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol o £500,000 i barhau i adeiladu ar ei lwyddiant. Bydd y prosiect newydd, ‘Mae Llesiant yn Bwysig’ yn rhedeg am y 3 blynedd nesaf yn canolbwyntio ar bob agwedd o lesiant gofalwyr. Mae pwyslais mawr ar sicrhau bod y prosiect yn gynhwysol, yn helpu lleihau unigrwydd ac yn creu teimlad cryfach o lesiant, boed hynny’n feddyliol, corfforol neu’n gymdeithasol. Bydd ein swyddogion llesiant wrth law i gynnig cymorth un i un, a byddwn yn gweithio’n galed, unwaith y bydd y cyfyngiadau symud wedi dod i ben, ar gynyddu ein gallu i gynnig cwnsela, seibiannau a digwyddiadau cymdeithasol gyda help gwirfoddolwyr. Yn y cyfamser, rydym ar gael dros y ffôn ac ar-lein felly cadwch mewn cysylltiad. Cadwch lygad hefyd am fwy o ddiweddariadau dros y misoedd i ddod!

Cofion gorau, 

Gill (rheolwr y prosiect) a’r tîm.

More about the project

The ‘Well-Being Matters’ project offers support, group activities, events, counselling, training, and short term carer breaks to carers in Denbighshire, Flintshire and Wrexham. The project has two dedicated Well Being Officers in each county to provide advice and support as well as signposting.  The main focus of the project is to support carers to identify, plan and achieve personal goals to improve their well-being. We will be actively recruiting and training volunteers to help deliver and steer the project particularly with regards to providing a listening ear service, referring carers and supporting events. This project follows on from the Carer Well-Being project funded 2017-2020.

Mwy am y prosiect

Diolch i gyllid gan Gronfa Gymunedol y Loteri Cenedlaethol, mae NEWCIS yn gallu cynnig y Prosiect ‘Mae Llesiant yn Bwysig’ i ofalwyr sy’n byw yn Sir Ddinbych, Sir y Fflint a Wrecsam. Mae’r prosiect yn cynnig cymorth, gweithgareddau grŵp, digwyddiadau, cwnsela, hyfforddiant a seibiannau byr i ofalwyr. Mae gan y prosiect 2 Swyddog Llesiant unswydd ym mhob sir i gynnig cyngor a chymorth yn ogystal â chyfeirio at gymorth pellach. Prif bwyslais y prosiect yw helpu gofalwyr i ddewis, cynllunio a chyflawni nodau personol i wella eu llesiant. Byddwn yn mynd ati o ddifrif i recriwtio a hyfforddi gwirfoddolwyr i helpu cyflawni a llywio’r prosiect, yn enwedig o safbwynt cynnig gwasanaeth clust i wrando, cyfeirio gofalwyr at gymorth a chefnogi digwyddiadau. Mae’r prosiect hwn yn ddilyniant o’n prosiect Llesiant Gofalwyr a gafodd ei gyllido 2017-2020.

Leave a Reply

Your email address will not be published. Required fields are marked *

Skip to content